
A ydi rhywun yn etifeddu ffydd?
Wrth i Siôn Meredith weld bedd ei fam am y tro cyntaf, mae’n trafod y ffaith iddo ddilyn llwybr tebyg i'w deulu genedigol heb fod ag unrhyw gysylltiad â nhw hyd at yn ddiweddar.
Gyda John Roberts yn gwmni iddo, mae Siôn Meredith yn teithio bron i ddau gan milltir o Aberystwyth i Hove ger Brighton er mwyn gweld bedd ei fam am y tro cyntaf. Mae’n trafod y ffaith iddo ddilyn llwybr tebyg i'w deulu genedigol, heb fod ag unrhyw gysylltiad â nhw hyd at yn ddiweddar. Dyma ofyn, felly, a ydi rhywun yn etifeddu ffydd? Mae’r niwrolegydd ymgynghorol Rhys Davies yn pwyso a mesur dylanwad posib y genynnau ar dueddfryd crefyddol, cyn i Geraint Tudur a Linda-Mary Edwards ymuno â John Roberts a Siôn Meredith i drafod ymhellach.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 23 Awst 2015 08:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
Podlediad
-
Bwrw Golwg
Trafodaeth wythnosol ar faterion moesol a chrefyddol.