Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Eithafiaeth a Trident

Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod y frwydr yn erbyn eithafiaeth a dyfodol Trident. Vaughan Roderick and guests discuss combating extremism and the future of Trident.

Wythnos wedi ymosodiadau Paris, mae Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod y frwydr yn erbyn eithafiaeth yn y Dwyrain Canol. Beth yw rôl Prydain ar y llwyfan rhyngwladol?
Wrth i Lywodraeth Prydain ymrwymo i adnewyddu system arfau Trident, mae'n fater sydd wedi achosi tipyn o rwyg o fewn y Blaid Lafur.
A chyda'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn sôn am gael gwared â gwasanaeth y Botwm Coch, pa raglenni y dylid eu gwarchod neu eu gollwng wrth i'r gorfforaeth orfod arbed arian?
Yr Aelod Cynulliad Ceidwadol Suzy Davies, yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards o Blaid Cymru a Siân Gale o'r TUC sy'n cadw cwmni i Vaughan.

31 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 20 Tach 2015 12:00

Darllediad

  • Gwen 20 Tach 2015 12:00

Podlediad