Aled Hughes Penodau Canllaw penodau
-
Tân Mewn Tiwn
A yw cadw mewn tiwn wrth chwibanu'n haws na thrwy ganu? Mae Wil Tân yn y stiwdio i brofi.
-
25/05/2018
Straeon cyfredol a'r gerddoriaeth orau.
-
Reps Gwyliau
Wrth i Club 18-30 ddod i ben, mae Aled yn holi Alun Williams am y profiad o fod yn rep.
-
Merthyr - Lle Hyfryd?
Mae Morgan Owen yn ystyried ardal Merthyr yn un o'r hyfrytaf yn y byd, ond beth am Aled?
-
Menyn ar Bawennau Cathod
Myrddin ap Dafydd sy'n holi pam fod pobol yn rhoi menyn ar bawennau cathod?
-
Gweithdy Cyfansoddi Caneuon
Y grŵp Adwaith sy'n rhoi gweithdy cyfansoddi caneuon i Aled.
-
Codi Carreg yng Nghricieth
Cyn y gystadleuaeth codi carreg flynyddol yng Nghricieth, mae Aled yn holi Reuben Hughes.
-
Trôns Hunanlanhau
Helen Humphreys sy'n ymuno ag Aled i drafod trôns sy'n glanhau eu hunain.
-
Chwilio am Geirw
Pa mor gyffredin ydi ceirw yng Nghymru? Aled sy'n chwilio am y creaduriaid ym Modelwyddan.
-
Gwahardd Irn-Bru
Stuart Brown sy'n ymateb i benderfyniad un o gyrsiau golff Donald Trump i wahardd Irn-Bru.
-
Ffilmiau Gwael am Siarcod
Gwylio 17 o ffilmiau gwael am siarcod mewn 24 awr ydi'r her i Arfon Jones, ond pam?
-
Crefft Sylwebu
Wrth i John Motson ymddeol, mae Nic Parry yn y stiwdio i drafod crefft sylwebu.
-
Rhamantu Troseddwyr
Hanner canrif ers arestio'r brodyr Kray, a ydym yn euog o ramantu troseddwyr?
-
Treftadaeth Ddiwydiannol
Spencer Gavin o'r Old Furnace yn Coalbrookdale sy'n trafod treftadaeth ddiwydiannol.
-
08/05/2018
Straeon cyfredol a'r gerddoriaeth orau.
-
Carolau'r Haf
Mae Mair Tomos Ifans yn y stiwdio i drafod a chanu carolau'r haf.
-
Ffitrwydd
Wrth i gyfres deledu FFIT Cymru barhau, mae Aled yn dysgu am ei ffitrwydd ei hun.
-
Nyrs Aled
Sut nyrs fyddai Aled? Mae'n cael rhywfaint o hyfforddiant ym Mhrifysgol Bangor.
-
Dwyn Syniadau Celfyddydol
Ar ôl i Damien Hirst gyfaddef dwyn syniadau, mae Jon Gower yn ymuno ag Aled i drafod.
-
Emoji - Dirywiad Ieithyddol?
A yw emoji wedi achosi dirywiad ieithyddol? Yr Athro Peredur Lynch sy'n trafod.
-
Côr y Wîg
Prin iawn, mae'n debyg, yw'r bobl sy'n medru adnabod adar oddi wrth eu cân. Beth am Aled?
-
Bad Achub Porthdinllaen
Ar ymweliad â Gorsaf Bad Achub Porthdinllaen, mae Aled yn cael cwmni Owain Williams.
-
Mynd â Defaid am Dro
Hanes menter busnes newydd Lois Jones o Drawsfynydd, sef mynd â defaid am dro.
-
Poen Pêl-droed
Dylan Llewelyn sy'n trafod fel mae dilyn pêl-droed yn medru achosi mwy o boen na phleser.
-
Fferins
Wrth i fferins y gorffennol ddod yn fwyfwy poblogaidd, mae Aled yn ymweld â Chaernarfon.
-
Mosgitos
Ai'r mosgito yw anifail perycla'r byd? Dr Hefin Jones sy'n trafod.
-
Lleisio Cartŵns
Beth yw'r gyfrinach wrth leisio cartŵns? Iestyn Garlick sy'n ymuno ag Aled.
-
Plant yn Ffraeo
Ar ymweliad â Llanllechid, mae Aled yn holi plant yno beth sy'n achosi ffrae yn eu tŷ nhw.
-
Diffiniad yn Ailffurfio
Wrth i Diffiniad ailffurfio, mae Aled yn cael cwmni Bethan Richards ac Ian Cottrell.
-
Cig Gafr
Ychydig iawn o gig gafr sy'n cael ei fwyta yng Nghymru, ond a ydi hyn am newid?