Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Y Dosbarth Canol

Ai bendith neu felltith yw'r dosbarth canol? Mae Caryl yn cael cwmni Dr Andrew Edwards, Rod Richards a Karen Owen. Caryl and guests discuss the middles class.

Mae'r dosbarth canol yn haen gymdeithasol sy'n destun tynnu coes, dychan a gwawd, a hynny yn amlach na pheidio gan bobl sydd yn ddosbarth canol eu hunain! Felly sut mae gwybod a ydi rhywun yn ddosbarth canol ai peidio, a pham nad yw'n rhywbeth i ymfalchïo ynddo?

Dau sydd â safbwyntiau cryf ar y pwnc ydi Rod Richards a Karen Owen - y naill yn gyn-aelod seneddol a'r llall yn fardd a newyddiadurwraig.

Mae'r Athro Andrew Edwards o Ysgol Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Bangor hefyd yn ymuno â Caryl i drafod dechreuad a datblygiad y dosbarth canol.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 27 Hyd 2016 12:00

Darllediadau

  • Iau 19 Mai 2016 12:00
  • Iau 27 Hyd 2016 12:00

Podlediad