 
                
                        Ras Cefn y Ddraig a'r Lleuad
Huw Jack Brassington sy'n egluro beth ydi Ras Cefn y Ddraig, ac mae'r lleuad llawn agosaf mewn 68 o flynyddoedd ar fin cael ei gweld. Aled learns about the Dragon's Back Race.
1992 oedd y tro cyntaf i Ras Cefn y Ddraig gael ei chynnal, a bron i chwarter canrif yn ddiweddarach mae'n uchel ei pharch yn rhyngwladol. Ond beth yn union ydi hi, a phwy sy'n gymwys i roi cynnig arni? Huw Jack Brassington sy'n ymuno ag Aled am sgwrs.
Ddiwrnod cyn Gwyl Cerdd Dant Llyn ac Eifionydd 2016, mae Non Tudur yn egluro beth wnaeth iddi ymuno â chôr cerdd dant. Nid hi ydi'r cyntaf i wneud hynny, ond nid pawb sy'n blogio am ymarferion a gwisgoedd ac ati.
Dydd Llun y 14eg o Dachwedd ydi dyddiad y lleuad llawn agosaf mewn 68 o flynyddoedd. Fydd dim cyfle tebyg i weld y lleuad mor agos a mor fawr yn yr awyr am 18 mlynedd arall, felly mae pobl fel Dr Huw Thomas o Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth yn edrych ymlaen.
A chydag amser yn brin cyn yr her fawr er budd Plant Mewn Angen, mae gan Llyr Griffiths-Davies y rhagolygon ar gyfer taith seiclo Aled o Abertawe i Fangor.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Cerddoriaeth a chwaraewyd
- 
    ![]()  HergestHarbwr Aberteifi - Hergest 1975-1978.
- Sain.
 
- 
    ![]()  Mabli TudurTemtasiwn - Temptasiwn.
- Nfi.
 
- 
    ![]()  BrigynHaleliwia - Haleliwia.
- Nfi.
 
- 
    ![]()  Yws GwyneddMa Na Le - Codi Cysgu.
- Cosh.
 
- 
    ![]()  Meinir GwilymGwallgo (Trac Yr Wythnos) - Llwybrau.
- Gwynfryn Cymunedol.
 
- 
    ![]()  Cowbois Rhos BotwnnogO Nansi - Dyddiau Du Dyddiau Gwyn.
- Sbrigyn Ymborth.
 
- 
    ![]()  Yr OdsCariad (Dwi Mor Anhapus) - Troi a Throsi - Yr Ods.
- Copa.
 
- 
    ![]()  Ynyr LlwydAm Y Tro - Awyr Iach.
- Aran.
 
- 
    ![]()  MelysChwyrlio 
- 
    ![]()  Gai TomsHaul Hydref Y Moelwyn - Sesiwn Sbardun.
 
- 
    ![]()  Mei EmrysBrenhines Y Llyn Du 
- 
    ![]()  Edward H DafisYsbryd Y Nos - Mewn Bocs - Edward H Dafis.
- Sain.
 
- 
    ![]()  BendithMis Mehefin - Bendith.
- Agati Records.
 
- 
    ![]()  Casi WynColliseum - Caneuon Cyfres Trac 2 I Radio Cymru.
 
- 
    ![]()  Caryl & A'r BandYr Ail Feiolin - Goreuon Caryl - Caryl Parry Jones.
- Sain.
 
Darllediad
- Gwen 11 Tach 2016 08:30ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
