Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

05/11/2016

Jac Birch sy'n ymuno â'r criw i ymateb i fuddugoliaeth Manchester City dros Barcelona, a sylw i Gymry Manchester United. Jac Birch reacts to Manchester City's win over Barcelona.

Ychydig ddyddiau wedi buddugoliaeth Manchester City dros Barcelona yng Nghynghrair y Pencampwyr, mae Jac Birch yn ymuno â Dylan Jones a'r criw i drafod sut brofiad oedd bod yn Stadiwm Etihad ar noson mor gofiadwy i'w dîm.

O Manchester City i Manchester United wrth i Gwyn Jenkins a Ioan Gwyn sôn am eu llyfr, The Manchester United Welsh.

Eric Thomas a Rhys Griffiths sy'n edrych ymlaen at y gêm rhwng Y Barri a Phenybont yn Ail Rownd Cwpan Cymru, ac mae 'na gyfle hefyd i edrych ymlaen at Cymru v Serbia yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018.

Nicky John ac Iwan Arwel sydd ar y panel.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sad 5 Tach 2016 08:30

Darllediad

  • Sad 5 Tach 2016 08:30

Podlediad