Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Coed Nadolig ac Ofergoelion Tymhorol

Sgwrs gyda Justin Williams sy'n gwerthu 900 o goed Nadolig bob blwyddyn, ac ofergeolion tymhorol gyda Grace Roberts. Aled meets a man who sells 900 Christmas trees every year.

Coeden Nadolig go iawn neu un artiffisial? Dyna'r cwestiwn i Justin Williams o Ganolfan Arddio Fron Goch ger Caernarfon. Mae o'n gwerthu 900 o goed Nadolig bob blwyddyn.

Yng nghanol y tywydd oer, mae Grace Roberts o Lanrwst yn ymuno ag Aled i drafod hen ofergoelion yn ymwneud â'r tywydd.

Mae Mair Tomos Ifans a Shirley Owen yn mynd â ni i'r gorffennol hefyd. Maen nhw'n gobeithio y bydd cludo cist yn llawn creiriau i wahanol leoliadau yng Ngwynedd yn cyfrannu at ddealltwriaeth o hanes a diwylliant yr ardal.

Sgwrs hefyd gyda'r Parchedig Wynne Roberts, caplan sydd wedi casglu miloedd o bunnau wrth ganu caneuon Elvis. Mae'n ymuno ag Aled ar ôl ennill gwobr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am gyfraniad i'r gymuned ehangach.

1 awr, 30 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 2 Rhag 2016 08:30

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr

    Siglo Ar Y Siglen

    • Neb Yn Deilwng 1977-1997 Goreuon Cyf. 2.
    • Sain.
  • Hergest

    Hirddydd Haf

    • Hergest 1975-1978.
    • Sain.
  • Yws Gwynedd

    Anrheoli (Trac Yr Wythnos)

    • Sgrin.
    • Cosh.
  • Caryl Parry Jones

    Gwyl Y Baban

    Choir: Ysgol Iau Llangennech. Conductor: Paul Leddington Wright. Featured Artist: The Big Sing Orchestra. Music Arranger: Howard Jeffrey. Lyricist: Caryl Parry Jones.
    • Ar Noson Fel Heno-Carolau Newydd.
    • Sain.
  • Pry Cry

    Diwrnod Braf

  • Elin Fflur

    Syrthio

    • Dim Gair - Elin Fflur.
    • Sain.
  • Calfari

    Golau Gwyn

    • Golau Gwyn.
    • Nfi.
  • Bronwen

    Ti A Fi

    • Ti a Fi.
    • Nfi.
  • Martin Beattie

    Glyndwr

    • Can I Gymru 2010.
  • Brigyn

    Gadael Bordeaux (Sesiwn Sbardun)

  • Gwibdaith Hen Frân

    Coffi Du

    • Sesiwn Ar Gyfer C2.
  • Al Lewis

    Clychau'r Ceirw

  • Pan Fo'r Nos Yn Hir

    Alys Williams

Darllediad

  • Gwen 2 Rhag 2016 08:30