Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Siân Phillips a Stifyn Parri

Nia Roberts gyda dau westai sydd a rhywbeth yn gyffredin mewn man sy'n berthnasol i'r ddau. Two guests with something in common.

Cartref BAFTA yn Piccadilly, Llundain, ydi'r lleoliad ar gyfer y sgwrs hon rhwng Nia Roberts a dau ffrind agos. Yno y daeth Siân Phillips a Stifyn Parri wyneb yn wyneb am y tro cyntaf, a hynny er mwyn cydgyflwyno noson wobrwyo gyntaf erioed BAFTA Cymru. Roedd y gynulleidfa'n feddw, yn taflu pethau at y ddau oherwydd eu bod yn siarad Saesneg, ac roedd Stifyn yn argyhoeddedig fod ei gydgyflwynydd yn cymryd cyffuriau! Doedd hi ddim, wrth gwrs, a buan iawn wedi'r gamddealltwriaeth honno y daeth y ddau yn ffrindiau da.

Yn ogystal â thrafod eu cyfeillgarwch, mae 'na gyfle i glywed am eu profiadau unigol yn symud i Lundain. Mae Siân yn egluro fel yr oedd mynd o'r gorllewin i Gaerdydd cyn hynny'n anoddach o lawer iddi, a Stifyn yn sôn am fod ag ofn trenau tanddaearol.

Mae Stifyn hefyd yn rhannu profiadau fel colli ei dad yn 16 oed, a chwarae rhan dyn hoyw yn Brookside. Fe arweiniodd hynny ato'n dweud wrth ei fam ei fod o ei hun yn hoyw, a'r newyddion mawr i Siân yn ystod y sgwrs hon ydi ei fod bellach wedi dyweddïo.

Mae Siân, ar y llaw arall, yn hapus iawn yn byw ar ei phen ei hun. Ar ôl bod yn briod deirgwaith, mae'n fodlon ers blynyddoedd lawer ar gwmni ei ffrindiau niferus.

Er bod y ddau yn cael trafferth dweud beth yn union sy'n cynnal eu perthynas, yn enwedig o ystyried nad ydyn nhw'n siarad am fisoedd weithiau, mae'n gwbl amlwg eu bod wrth eu bodd yng nghwmni ei gilydd. Mae Nia hefyd yn cael modd i fyw.

54 o funudau

Darllediad diwethaf

Maw 20 Tach 2018 12:00

Darllediadau

  • Sul 27 Tach 2016 19:05
  • Maw 29 Tach 2016 12:00
  • Iau 27 Ebr 2017 18:00
  • Maw 20 Tach 2018 12:00