Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Llangrannog a Llygod Mawr

Diwedd cyfnod i Wersyll Llangrannog, a hela llygod mawr ar Ynys Môn. It's the end of an era at Gwersyll Llangrannog, plus Aled goes rat-hunting on Anglesey.

Mae'n ddiwedd cyfnod i un o wersylloedd Urdd Gobaith Cymru, gyda'r amser wedi dod i ffarwelio â chaban pren olaf Llangrannog. Dyma gyfle i nodi'r achlysur, a hynny wrth i'r mudiad weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth ar greu archif ddigidol i'r Urdd. Penodi myfyriwr MPhil am flwyddyn ydi'r nod, er mwyn dechrau paratoi ar gyfer dathliadau canmlwyddiant yr Urdd yn 2022. Dr Bleddyn Huws o Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth a Sioned Hughes, Prif Weithredwr yr Urdd, sy'n sgwrsio gydag Aled.

Hela llygod mawr ydi diben ymweliad â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Penhesgyn ger Porthaethwy. Barry Owen o Gyngor Sir Ynys Môn ydi'r cwmni yno.

Mae'n bosib y bydd safle yn Swydd Buckingham yn dod yn ganolfan ar gyfer cenhedlaeth newydd o wneuthurwyr a thorrwyr côds. Fe gafodd Bletchley Park ei ddefnyddio'n ystod yr Ail Ryfel Byd, ac roedd mam Gethin Russell-Jones yn gweithio yno bryd hynny. Mae Gethin yn ymuno ag Aled am sgwrs.

Ac am yr ail flwyddyn yn olynol, mae criw bwyty'r Lloft Hwyliau yn Amlwch yn gwahodd pobl sydd ar eu pennau eu hunain Ddydd Nadolig i fynd yno i gael cinio. Mae Aled Morris Jones yn un o'r rhai a fydd yn gwirfoddoli ar y diwrnod.

1 awr, 30 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 14 Rhag 2016 08:30

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Gwyneth Glyn

    Ewbanamandda

    • Cains - Gwyneth Glyn.
    • Recordiau Gwinllan.
  • Bendith

    Danybanc

    • Bendith.
    • Agati Records.
  • Yws Gwynedd

    Sebona Fi

    • Codi Cysgu.
    • Cosh.
  • Bryn Fôn

    Di Dolig Ddim yn Ddolig

    • Di Dolig Ddim Yn Ddolig.
  • ³§Åµ²Ô²¹³¾¾±

    Trwmgwsg

    • Trwmgwsg.
  • Amy Wadge

    U.S.A? Oes Angen Mwy...

    • Usa Oes Angen Mwy.
    • Manhaton Records.
  • Cor Glanaethwy

    Haleliwia

    • Haleliwia.
    • Nfi.
  • Catrin Hopkins

    Yn Fy Ngwaed

    • Gadael.
    • Abel.
  • Beganifs

    Gwenan Yn Y Gwenith

    • Ap Elvis.
    • Ankst.
  • Geraint Lovgreen a’r Enw Da

    Enw Da

    • Geraint Lovgreen a'r Enw Da 1981-1998.
    • Sain.
  • Daniel Lloyd

    Tro Ar Fyd

    • Tro Ar Fyd - Daniel Lloyd.
    • Rasal.

Darllediad

  • Mer 14 Rhag 2016 08:30