
Aled Samuel a Rhian Morgan
Nia Roberts yng nghwmni gŵr a gwraig, Aled Samuel a Rhian Morgan, yng Nghlwb y Cameo ym Mhontcanna yng Nghaerdydd. Nia Roberts chats to Aled Samuel and Rhian Morgan.
Mae'n debyg mai Clwb y Cameo ym Mhontcanna, Caerdydd, oedd man cychwyn carwriaeth y ddau sy'n gwmni i Nia Roberts yn y rhaglen hon. Yno y digwyddodd snog nwydus a gwallgof mewn parti wedi rhaglen fyw ar S4C un nos Galan, ond roedden nhw'n nabod ei gilydd ymhell cyn hynny. Yn wir, brawd ei ffrind gorau oedd Aled Samuel i Rhian Morgan am flynyddoedd.
Wrth sgwrsio â Nia, mae'r ddau yn trafod eu cefndiroedd a'u dylanwadau tebyg. Mae 'na sôn yn arbennig am bwysigrwydd mam-gu ym magwraeth y ddau, gan gynnwys Aled yn manteisio ar raglenni radio byw o Abertawe i roi gwybod i'w fam-gu y byddai'n galw i'w gweld ymhen rhyw ugain munud. Ac mae Rhian yn dweud mai bod yng nghwmni mam-gu, o bosib, oedd man cychwyn ei diddordeb hi mewn actio.
Tu hwnt i Gymru, mae Aled yn sôn am fynd â'r Tebot Piws i America. Mae'n credu iddo gael mwy o brofiadau cofiadwy ac adeiladol yno nac yn ystod unrhyw gyfnod arall yn ei fywyd. Trwy wneud cyfweliadau byw o America gydag Eurof Williams ar gyfer rhaglenni Sosban y dechreuodd feddwl am ddilyn gyrfa mewn sgwennu a darlledu.
Dyma ddau sydd yn cymryd eu gwaith o ddifrif. Yn ôl Rhian, mae 'na lonyddwch yn perthyn i Aled wrth iddo baratoi i gyflwyno rhaglen neu sgwennu colofn, ac mae'n cydnabod ei bod yn nerfus yn darllen colofnau ei gŵr yng nghylchgrawn Golwg. Mae Aled, ar y llaw arall, yn medru ymlacio wrth wylio ei wraig yn actio. Mae'n gwybod am yr holl ymchwil a gwaith meddwl ganddi cyn y ffilmio neu'r perfformiad byw, ac mae Rhian yn sôn am yr holl bleser mae'n ei gael o ddysgu am agweddau o fywyd wrth ymgymryd â gwahanol rannau.
Mae'n amlwg wrth wrando ar y sgwrs eu bod yn deall ei gilydd i'r dim. A newyddion da i unrhyw un sy'n cofio Pelydr X ydi fod cymeriad Glan o'r gyfres ddychan yn gwneud ailymddangosiad!
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediadau
- Sul 11 Rhag 2016 19:05ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
- Maw 13 Rhag 2016 12:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
- Sul 16 Ebr 2017 12:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
- Sul 25 Tach 2018 19:05ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2