Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Episode 1

Alun Thomas gyda straeon gan Gymry Cymraeg sy'n byw ac yn gweithio mewn gwahanol wledydd. Stories from Welsh speakers living in various parts of the world.

Alun Thomas gyda straeon gan Gymry Cymraeg sy'n byw ac yn gweithio mewn gwahanol wledydd.

Yn y rhaglen hon, mae Bethan Kilfoil yn trafod achos o dor-cyfraith yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae'n ymwneud ag un o sêr byd y campau, ond dyw hi ddim yn stori sydd wedi cael rhyw lawer o sylw yr ochr yma i Fôr Iwerddon.

Mae Hedd Thomas yn ôl yng Nghymru wedi cyfnod yn Ne Swdan, ac yn dweud wrth Alun sut mae pethau yn un o wledydd mwyaf newydd Affrica.

Moethusrwydd bywyd yn Qatar sy'n cael sylw Rhodri Ogwen, wrth i Iolo ap Dafydd gyfleu cyffro ac ansicrwydd byw yn Nhwrci.

Ac ychydig ddyddiau wedi i Donald Trump ennill arlywyddiaeth Unol Daleithiau America yn ffurfiol, Robert J Jones o dalaith Efrog Newydd sy'n sgwrsio ag Alun am y teimladau yno erbyn hyn.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 23 Rhag 2016 12:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Dyma'r rhifyn cyntaf

Nesaf

Gweld holl benodau Benbaladr

Darllediad

  • Gwen 23 Rhag 2016 12:00