
Ôl-wirionedd a'r Hen Galan
John Roberts a'i westeion yn trafod ôl-wirionedd, yr hen Galan, a chenhadu i bobl o grefyddau eraill. John Roberts asks how the term post-truth applies outside politics.
Wedi i fudiad Cyfeillon y Ddaear gael ei feirniadu gan yr Awdurdod Safonau Hysbysebu am ddefnyddio tactegau codi ofn mewn pamffled yn gwrthwynebu ffracio, mae Huw Williams yn ymuno â John Roberts i drafod meddylfryd ôl-wirionedd.
Mae Dewi Arwel Hughes newydd gyhoeddi cyfrol ar ran y Gynghrair Efengylaidd ynglŷn â chenhadu i bobl o grefyddau eraill. Mae'n esbonio wrth John beth sydd angen ystyried wrth wneud hyn, a pham gwneud o gwbl.
Nadolig yr Eglwys Uniongred sy'n mynd â sylw'r Tad Deiniol, a hefyd sefyllfa Cristnogion yn Syria.
Ac mae John yn cofio ambell draddodiad wrth drafod dathliadau'r hen Galan gyda Gareth Reid, a chyrddau gweddi dechrau'r flwyddyn gydag Emlyn Richards.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 8 Ion 2017 08:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
Podlediad
-
Bwrw Golwg
Trafodaeth wythnosol ar faterion moesol a chrefyddol.