Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Caryl a'i gwesteion yn trafod perthynas pobl â cheir. Caryl and guests discuss the relationship between people and cars.

Caryl a'i gwesteion yn trafod perthynas pobl â cheir.

Mae Emyr Phillips wedi gwirioni ar hen geir ers y tro cyntaf iddo gael Cortina pan oedd yn ddyn ifanc. Mae'n treulio pob munud sbâr sydd ganddo yn adnewyddu hen geir.

Yr un yw stori Arfon Williams o Ynys Môn. Fe dyfodd ei gasgliad yntau o hen geir i'r fath raddau ei fod wedi sefydlu amgueddfa ym Môn, ac mae ganddo RS2000 sy'n werth tua £30,000.

Mini oedd car cyntaf Olwen Davies, un o hoelion wyth byd ralïau ceir yng ngorllewin Cymru. Ar ôl cymryd rhan ei hun, hi sydd bellach yn eu trefnu. Mae hi wedi teithio cyn-belled ag India.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 19 Ion 2017 12:00

Darllediad

  • Iau 19 Ion 2017 12:00

Podlediad