Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Rhaglen o Belfast, ychydig ddyddiau wedi marwolaeth Martin McGuinness. Yn ogystal â thrafod hynny, mae Dewi'n clywed hefyd am effaith Brexit ar un Gymraes leol. Live from Belfast.

Rhaglen o Belfast, ychydig ddyddiau wedi marwolaeth y cyn-ddirprwy brif weinidog Martin McGuinness.

Yn ogystal â thrafod Mr McGuinness, mae Dewi'n clywed hefyd am effaith Brexit ar Gymraes sy'n byw ar y ffin rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon, ac yn holi beth yw apêl Gogledd Iwerddon i'r Prif Weinidog Carwyn Jones.

Mae dwy Wyddeles a gafodd eu magu yng nghanol yr Helyntion yn Belfast yn rhannu eu profiadau, ac mae 'na gyfle i glywed am gysylltiad Gwyddeleg â Gogledd Iwerddon.

Cyfle hefyd i edrych yn ôl ar gêm bêl-droed ragbrofol Cymru yn Nulyn cyn Cwpan y Byd 2018.

1 awr, 30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 26 Maw 2017 08:30

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Tebot Piws

    Mae Rhywun Wedi Dwyn Fy Nhrwyn

    • Y Gore a'r Gwaetha - Tebot Piws.
    • Sain.

Darllediad

  • Sul 26 Maw 2017 08:30

Podlediad