Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Beirdd Bro Eisteddfod Ynys Môn

Yn cynnwys sgwrs am y gyfrol Beirdd Bro Eisteddfod Ynys Môn. Dei hears about an anthology of the work of contemporary Anglesey poets.

Cen Williams ac Ioan Tryfil Roberts sy'n ymuno â Dei i sgwrsio am y gyfrol Beirdd Bro Eisteddfod Ynys Môn, wrth i David Thorne drafod enwau lleoedd bro Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái.

Cofio D.G. Jones (Selyf) mae Dewi Jones a Nan Ellis. Bu farw'r arloeswr ym myd cerdd dant yn ddiweddar.

Bardd a llenor ifanc o Ben LlÅ·n yw Iestyn Tyne. Mae'n dweud wrth Dei am gyfrol o farddoniaeth y mae wedi ei chyhoeddi ei hun.

A cherdd gan fardd preswyl Radio Cymru ym mis Mai, yr Archdderwydd Geraint Lloyd Owen, er cof am ei ferch Elliw.

1 awr, 30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 28 Mai 2017 17:30

Darllediad

  • Sul 28 Mai 2017 17:30

Podlediad