Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Goreuon y Gorffennol

Detholiad o sgyrsiau o raglenni cynharaf Dei ar nosweithiau Sul, gan gynwys Ceri Wyn Jones yn sôn am fod yn Fardd Plant Cymru. A selection of conversations from the archive.

Detholiad o sgyrsiau o raglenni cynharaf Dei ar nosweithiau Sul, gan gynwys Ceri Wyn Jones ar lan Afon Teifi yn sgwrsio am fod yn Fardd Plant Cymru.

Sôn am ei hymchwil i ewyllysiau yng nghefn gwlad Cymru mae Nia Watkin Powell, o ddyddiau Owain Glyndŵr hyd at y ddeunawfed ganrif, wrth i W J Gruffydd drafod ei hunangofiant.

Cawn hanes David Owen, sef awdur alawon fel Codiad yr Ehedydd a Dafydd y Garreg Wen, yn ogystal â hanes y cerddor a'r cyfansoddwr Caradog Roberts.

Hefyd, atgofion Ann Jones o Aberporth am ei chyfnod yn gweithio yn y Swyddfa Gymreig, a'r her iddi fel cyfieithydd yn y dyddiau cynnar hynny.

1 awr, 30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 27 Awst 2017 17:30

Darllediad

  • Sul 27 Awst 2017 17:30

Podlediad