Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Hanner canrif ers Deddf Erthylu 1967, dyma edrych ar yr effaith ar Gymru. Fifty years since the Abortion Act 1967, what effect did its passing have on Wales?

Hanner canrif ers Deddf Erthylu 1967, dyma edrych ar effaith un o ddeddfau mwyaf dadleuol y cyfnod ar ferched a chymunedau yng Nghymru.

Wedi i'r Ddeddf ddod i rym, roedd gan ferched yng ngwledydd Prydain - ag eithrio Gogledd Iwerddon - yr hawl i gael erthyliad ar y Gwasanaeth Iechyd hyd at 24 wythnos ar ôl beichiogi. Mae 'na ddadlau wedi bod yn y cyfamser am gyfyngu i 22 neu 20 wythnos, ond does dim wedi newid hyd yma.

Pa mor ysgytwol oedd y trobwynt hwn, mewn gwirionedd, yn enwedig yng nghyd-destun Cymru? A oedd y wlad hon a'i phobl yn barod ar gyfer y fath newid? A beth ydi'r teimladau bum degawd yn ddiweddarach?

Sue Jones-Davies sy'n cyflwyno.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 19 Gorff 2019 12:30

Darllediadau

  • Llun 18 Medi 2017 12:30
  • Gwen 19 Gorff 2019 12:30