Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Calan Gaeaf

Archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy, gyda phwyslais y tro hwn ar Galan Gaeaf. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy, this time focusing on Halloween.

Archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy, gyda phwyslais y tro hwn ar draddodiadau Calan Gaeaf.

Cawn hanes yr Hwch Ddu Gwta, diolch i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, yn ogystal â chlywed am filoedd o gathod yn cael eu lladd mewn cyflafan yn ninas Paris.

Eleri Llewelyn Morris sy'n mynd â ni i fyd y poltergeist, wrth i'r Parchedig Dafydd Henry Edwards sôn am arferion y meirw.

Mae Evan Jones o Lanfarian yn rhannu stori am bobl yn rhagweld angladd yn ardal Tregaron, ac awn yn ôl i 1938 i glywed am War of the Worlds gan H. G. Wells. Dyma ddarllediad radio a greodd dipyn o gynnwrf yn America, wrth i bobl gredu eu bod dan ymosodiad o fyd arall.

1 awr

Darllediad diwethaf

Mer 1 Tach 2017 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 29 Hyd 2017 13:00
  • Mer 1 Tach 2017 18:00