
Stormydd
Stormydd yw thema John Hardy ar yr ymweliad hwn ag archif Radio Cymru. John Hardy is chasing storms on this visit to the Radio Cymru archive.
John Hardy yn cofio Stormydd o bob math.
Mae Emrys Evans yn sôn am ddiwrnod eira yn y chwarel, ac Elfrys Mair, Siân Edwards a Julie Harris yn cofio Eira Mawr Caerdydd yn 1978.
Mae Gwyneth Lewis yn sôn am ei haddasiad o waith Shakespeare The Tempest, ac Emyr Price yn sôn am storom allai fod wedi dod a gyrfa David Lloyd George i ben yn 1890.
Mae merch Lloyd George, Y Fonesig Olwen Carey Evans, yn sôn am storom wahanol, storm gyfansoddiadol go iawn sef hanes Edward VIII yn ildio'r goron
Ac roedd 1927 yn flwyddyn wael am stormydd. Fe glywn am Tsunami Talsarnau a llifogydd Cricieth. Mae Sulwyn Thomas yn sôn am ddod i'r adwy adeg Eira mawr 1982 ac mae Marged Jones, Penantlliw, yn esbonio sut roedd y byd amaethyddol yn ymdopi adeg Eira 1947.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 19 Tach 2017 13:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
- Mer 22 Tach 2017 18:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru