Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

30/11/2017

Croeso cynnes dros baned wrth i Shân drafod sut i ofalu am eich croen yn oerfel y gaeaf a chlywed gan Siân James am brosiect Chwedloni. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.

Julie Howaston Boster sy'n trin a thrafod croen y gaeaf. Pa effaith mae'r cyfuniad o oerfel a gwres canolog yn cael ar ein croen?

Mae'r gantores Siân James yn sôn am brosiect Chwedloni sy'n rhan o fis chwedlau S4C. Mae Siân yn un o'r rhai sydd wedi cyfrannu i dros 50 o ffilmiau byrion sydd wedi eu cyhoeddi ar-lein ac sy'n dangos pobl ar draws Cymru yn adrodd eu chwedl fach eu hunain.

Yr wythnos yma yn y gyfres Fy Mag a fi, ry'n ni'n clywed pobol yn siarad am eu profiad o gael bag colostomi neu fag ileostomy. Heddiw cawn glywed stori Douglas o Benmaenmawr gafodd fag tua chwe blynedd yn ôl.

A Dave Taylor sy'n sôn am gwrs newydd yn Academi Llais Ryngwladol Cymru, ynghyd a pherfformiad byw gan un o gyn-ddisgyblion yr Academi Mari Wyn Williams.

2 awr

Darllediad diwethaf

Iau 30 Tach 2017 10:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Bore Cothi

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Y Trwynau Coch

    Mynd I'r Bala Mewn Cwch Banana

    • Trwynau Coch - Y Casgliad.
    • Crai.
  • Bob Delyn a'r Ebillion

    Swn (Ar Gerdyn Post)

    • Dal I 'redig Dipyn Bach.
    • Sain.
  • Injaroc

    Calon

    • Goreuon Caryl - Caryl Parry Jones.
    • Sain.
  • Celt

    Dwi'n Amau Dim

    • @.Com - Celt.
    • Sain.
  • Siân James

    Seren

    • Can I Gymru 2017.

Darllediad

  • Iau 30 Tach 2017 10:00