Main content

03/12/2017
Dei Tomos yn trafod capeli Llundain gyda Huw Edwards ac yn holi Cefin Roberts am gystadlu mewn eisteddfodau lleol. Dei Tomos discusses London chapels with Huw Edwards.
Mae Dei Tomos yn sgwrsio gyda'r darlledwr Huw Edwards am hanes capeli Cymraeg Llundain ac yn holi beth sy'n gyrru Cefin Roberts i gystadlu am wobrau llenyddol mewn eisteddfodau lleol ar hyd a lled Cymru.
Llenyddiaeth sydd yn mynd â bryd Manon Steffan Ros hefyd wrth iddi hi sgwrsio am ei chyfrol newydd o ysgrifau sydd yn mynegu barn ar bob math o bynciau llosg.
Ac wedi sôn am famau T.H Parry Williams a Kate Roberts wythnos yn ôl, mae Geraint Percy Jones yn trafod mam DJ Williams.
Darllediad diwethaf
Sul 3 Rhag 2017
17:30
ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
Darllediad
- Sul 3 Rhag 2017 17:30ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
Podlediad
-
Dei Tomos
Sgyrsiau am Gymru, ei phobl a'i diwylliant.