
Priodas
Priodas yw'r thema ar ymweliad wythnosol John Hardy ag archif Radio Cymru. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
Priodas yw thema John Hardy heddiw.
Mae disgyblion 6ed Dosbarth Ysgol Berwyn Y Bala yn rhoi eu barn ar briodas, a hynny yn ôl yn 1979, Alma Carter yn sôn am drefnu blodau ar gyfer priodasau a'r Parchedigion Eifion Powell ac Emrys Wyn Evans yn sôn am droeon trwstan wrth arwain gwasanaethau priodas.
Cawn glywed araith Tydfor Jones yn ei briodas ei hun; Martyn Williams yn edrych yn ddychanol ar briodas Charles a Diana; Graham Jenkins yn sôn am ochr caredig perthynas ei frawd Richard Burton ag Elizabeth Taylor; Maldwyn Thomas yn trafod hanes priodas Adolf Hitler ac Eva Braun; a John Meredith yn sgwrsio gyda Tomi ac Olwen Hughes a oedd, yn 1989, wedi bod yn briod am 62 o flynyddoedd.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Eryr Wen
Y Briodas
- Manamanamwnci.
- SAIN.
- 2.
-
Delwyn Siôn
Ma' Lleucu Llwyd 'Di Priodi
- Mwgyn A Mwffler A Mynuffari.
- SAIN.
- 1.
Darllediadau
- Sul 11 Chwef 2018 13:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2
- Mer 14 Chwef 2018 18:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2