Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Fy Newis I a Hela Gair

Dwy raglen o archif ddigidol ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru, sef Fy Newis I o 1978 a Hela Gair o 1975. Eddie Ladd sy'n cyflwyno. Eddie Ladd introduces two programmes from the Cymru digital archive.

Ar ôl i ddegau o filoedd o dapiau archif ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru gael eu digideiddio, mae Eddie Ladd yn manteisio ar y cyfle i chwarae rhaglenni sydd heb weld golau dydd ers degawdau - gwneud yr hen yn newydd, fel petae.

Mae'n dechrau gyda dwy raglen, sef Fy Newis I a Hela Gair.

Y bardd a'r darlledwr Harri Gwynn yw gwrthrych y ddwy. Wedi'i eni yn Llundain, symudodd i Benrhyndeudraeth. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir y Bermo a Choleg y Brifysgol, Bangor. Bu'n gweithio yn Llundain am ychydig, cyn dychwelyd yn ôl i Gymru. Bu'n briod â Dr. Eirwen Gwynn, a chafodd y ddau fab, Dr. Iolo ap Gwynn. Roedd yn un o ohebwyr cyntaf y rhaglen Heddiw, a dechreuodd weithio ar y rhaglen yn 1962. Bu'n gweithio hefyd fel cynhyrchydd radio ym Mangor.

Yn Fy Newis I, Dyfnallt Morgan sy'n holi Harri Gwynn, ac yn cael sgwrs am ei fagwraeth a'i farddoniaeth. Cafodd y rhaglen ei darlledu'n wreiddiol yn 1978.

Yn Hela Gair o 1975, mae Harri Gwynn yn mynd ar ôl ystyr geiriau a dywediadau yng nghwmni'r Athro Bedwyr Lewis Jones, Jane Edwards a Gwynedd Pierce.

1 awr

Darllediad diwethaf

Llun 9 Ebr 2018 18:00

Darllediad

  • Llun 9 Ebr 2018 18:00

Podlediad Co' Bach

Podlediad Co' Bach

Eddie Ladd yw curadur archif ddigidol Radio Cymru.