Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

03/06/2018

John Roberts a'i westeion yn trafod pwysigrwydd mynychu addoldy, Diwinyddiaeth Llwyddiant, Ramadan, a chofio Gwilym H. Jones. John Roberts and guests discuss ethics and religion.

Ar ôl i ymchwil awgrymu bod canran helaeth poblogaeth Ewrop yn ystyried eu hunain yn Gristnogion, ond eto ddim yn mynychu capel neu eglwys, mae Rhys Llwyd a Carwyn Crossman yn ymuno â John Roberts i drafod a ydy mynychu addoldy'n angenrheidiol.

Beth yw Diwinyddiaeth Llwyddiant? A pham ei fod yn dderbyniol gan rai bod yr efengylwr Jesse Duplantis yn gofyn am roddion ariannol i brynu awyren newydd? Kevin Adams sy'n taflu goleuni ar y ddiwinyddiaeth yma, a'i phoblogrwydd yn America.

Wrth i Foslemiaid ymprydio, gweddïo a myfyrio er mwyn agosáu at Dduw, mae Laura Jones yn esbonio rhagor am Ramadan.

Hefyd, teyrnged i'r Athro Gwilym H. Jones gan Eryl Wyn Davies.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 3 Meh 2018 08:00

Darllediad

  • Sul 3 Meh 2018 08:00

Podlediad