
Dafydd ap Gwilym
Rhaglen yn cynnwys cryn sylw i Dafydd ap Gwilym, gan gynnwys ei gysylltiad â Niwbwrch. Dei and guests discuss Wales, its people and its culture, including poet Dafydd ap Gwilym.
Rhaglen yn cynnwys cryn sylw i Dafydd ap Gwilym, gan gynnwys ei gysylltiad â phentref Niwbwrch yn Sir Fôn. Sara Elin Roberts sy'n trafod hynny, wrth i Dylan Foster Evans ddadansoddi un o gywyddau'r bardd, sef Y Cwt Gwyddau.
Mae 'na sôn hefyd am Eisteddfod Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yng Ngholeg Rhydychen. Lois Llywelyn, Math Roberts a Lois Wiliam sy'n ymuno â Dei, a hynny wedi i'r tri fod yn cystadlu.
Ag yntau'n ymddiddori yn hanes Mynydd Parys ger Amlwch, mae Richard Williams yn sgwrsio am y cysylltiad â phobl yr ardal.
Hefyd, Tudur Dylan Jones ac Idris Reynolds yn cofio Emyr 'Oernant' Jones.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Siân James
Seren
- CAN I GYMRU 2017.
- 7.
-
Math Roberts
Tocatina (Eisteddfod yr Urdd 2016)
-
Tudur Morgan
Y Copar Ladis
Darllediad
- Sul 3 Meh 2018 17:30ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2
Podlediad
-
Dei Tomos
Sgyrsiau am Gymru, ei phobl a'i diwylliant.