Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gwobr Templeton a Deall y Beibl

John Roberts a'i westeion yn trafod Gwobr Templeton a gwneud synnwyr o'r Beibl. John Roberts and guests discuss the Templeton Prize and how to understand the Bible.

Mae Gwobr Templeton yn cael ei rhoi yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i gadarnhau dimensiwn ysbrydol bywyd. Y Brenin Abdullah II sydd wedi ennill yr £1.1 miliwn eleni, am hybu heddwch o fewn Islam a rhwng Islam a chrefyddau eraill. Geraint Tudur sy'n ymuno â John Roberts i drafod y Wobr a'r cyn-enillwyr.

Gwneud synnwyr o'r ysgrythur oedd testun darlith Jeffrey John yng nghynhadledd flynyddol Cristnogaeth 21. A ydy hynny'n awgrymu nad yw e'n meddwl bod pobl yn deall y Beibl?

Mae Jennie Hurd yn esbonio beth sy'n mynd â sylw'r Methodistiaid yn eu cynhadledd flynyddol, a chawn flas ar CD newydd Cass Meurig. Mae Taith yn gasgliad o ganeuon ysbrydol sy'n sôn am ei phrofiad o ffydd.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 1 Gorff 2018 08:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Bwrw Golwg

Darllediad

  • Sul 1 Gorff 2018 08:00

Podlediad