Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Moesoldeb Robotiaid

Pam fod angen côd moesoldeb ar robotiaid? Rhoslyn Prys sy'n trafod. Why do robots need a moral code? Rhoslyn Prys joins Aled to discuss.

Tydi moesoldeb ddim yn air sy'n cael ei gysylltu'n aml gyda robotiaid, ond wrth i dechnoleg ddatblygu mor gyflym, mae gwyddonwyr wedi dod at ei gilydd i dyngu llw na fyddan nhw'n datblygu robot i ladd. Rhoslyn Prys sy'n trafod moesoldeb deallusrwydd artiffisial, a sut mae'n debygol o effeithio arnom ni.

Mae geiriau rhai o ganeuon ABBA wedi gorfod cael eu newid ar gyfer Mamma Mia! Here We Go Again, oherwydd nad ydyn nhw'n cael eu hystyried yn addas yn yr oes bresennol. Ffion Emyr, sydd wedi perfformio mewn sioeau cerdd yn y West End yn Llundain, sy'n trafod sut mae sioeau wedi gorfod addasu i gydfynd â'r hyn sy'n dderbyniol gan y gynulleidfa.

Gyda mis Awst yn cael ei ystyried yn gyfnod tawel iawn o ran newyddion, mae'r newyddiadurwr Hywel Trewyn yn rhannu ei brofiad yntau o ymdopi gyda'r hyn sy'n cael ei alw'n 'silly season'.

Sgwrs hefyd am grefydd Bwda, wedi i griw o fechgyn dreulio dyddiau mewn teml Fwdaidd ar ôl cael eu hachub o ogof yng Ngwlad Thai. Un sydd wedi dewis ei dilyn yw Siân Cwper o Lanfrothen, ac mae'n ymuno ag Aled i egluro pam.

1 awr, 30 o funudau

Darllediad diwethaf

Maw 31 Gorff 2018 08:30

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Yws Gwynedd

    Disgyn Am Yn Ol

    • ANRHEOLI.
    • Recordiau Côsh Records.
    • 2.
  • Ail Symudiad

    Y Llwybr Gwyrdd

    • Pippo Ar Baradwys.
    • Fflach.
    • 14.
  • Serol Serol

    Arwres

    • Serol Serol.
    • Recordiau I KA CHING Records.
    • 4.
  • Bryn Fôn a'r Band

    Afallon

    • Ynys.
    • laBel aBel.
    • 1.
  • Yr Eira

    Angen Ffrind

    • Recordiau I KA CHING Records.
  • Cerys Matthews

    Carolina

    • Paid Edrych I Lawr.
    • RAINBOW CITY RECORDS.
    • 3.
  • Lewys

    Gwres

    • Recordiau Côsh.
  • Steve Eaves

    Yr Ysbryd Mawr Yn Symud

    • Y Canol Llonydd Distaw.
    • ANKST.
    • 10.
  • Casi Wyn

    Hardd

    • NYTH.
  • Race Horses

    Lisa, Magic A Porva

    • Radio Luxembourg.
    • CIWDOD.
    • 8.
  • Mynediad Am Ddim

    Ynys Llanddwyn

    • Mynediad Am Ddim 1974 - 1992.
    • SAIN.
    • 10.
  • Alys Williams & Cerddorfa Genedlaethol Gymreig Y ÃÛÑ¿´«Ã½

    Synfyfyrio

    • CYNGERDD DIOLCH O GALON.
    • 2.
  • Elidyr Glyn

    Curiad Y Dydd

    • SESIWN SBARDUN.
    • 2.
  • Anweledig

    Chwarae Dy Gêm

    • Sombreros Yn Y Glaw.
    • Crai.
    • 7.

Darllediad

  • Maw 31 Gorff 2018 08:30