Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

16/09/2018

John Roberts a'i westeion yn trafod Irac a dyletswyddau cyhoeddus arweinwyr eglwysig. John Roberts and guests discuss ethics and religion.

Ar ôl dychwelyd o Irac, lle'r oedd yn ymweld â rhai o bartneriaid elusen Open Doors yno, mae Matthew Ress yn ymuno â John Roberts. Mae'n sôn am sut mae'r partneriaid yn cynorthwyo pobl yn Irac, ac am sefyllfa Cristnogion yn y wlad.

Mae Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru wedi bod yn cwrdd yn Llanbed. Ymhlith y pynciau trafod roedd ymchwilio ymhellach i ganiatáu priodasau gan gyplau o'r un rhyw yn yr Eglwys, a sut i efengylu ar gyfer yr oes hon. Yn ogystal â thrafod y digwyddiad gyda'r Esgob Andy John, mae John hefyd yn holi rhai a fu yn Llanbed, ac yn clywed gan Jon Price am brosiectau efengylu grŵp Sanctuary yn ardal Llanidloes.

Beth yw dyletswydd arweinydd eglwysig? A oes ffin rhwng rhoi arweiniad a gorymyrryd mewn gwleidyddiaeth? Dyna mae Bethan Jones Parry yn ei drafod, yn dilyn sylwadau diweddar gan Archesgob Caergaint i Gyngres yr Undebau Llafur.

28 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 16 Medi 2018 08:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Bwrw Golwg

Darllediad

  • Sul 16 Medi 2018 08:00

Podlediad