Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Ar Drywydd Llofrudd

Yn cynnwys Alun Davies yn trafod ei nofel gyntaf, Ar Drywydd Llofrudd, sydd wedi'i hysbrydoli gan boblogrwydd nofelau Scandinafaidd. A look at the arts.

Wrth grwydro Cefn Sidan ym Mharc Gwledig Penbre ger Llanelli, mae Nia yn holi Alun Davies am ei nofel gyntaf, Ar Drywydd Llofrudd. Mae'r gyfrol wedi'i hysbrydoli gan boblogrwydd nofelau tywyll Scandinafaidd, a'r lleoliad penodol hwn yn rhan ohoni.

Gyda chopi'r barnwr yn yr achos llys enwog i wahardd Lady Chatterley's Lover yn mynd ar werth, Meg Elis sy'n edrych yn ôl ar nofelau masweddus.

Yn ystod blwyddyn canmlwyddiant ei geni, mae Dylan Williams yn trafod gyrfa'r artist Susan Williams-Ellis, a fu'n gyfrifol am greu crochenwaith Portmeirion.

Sylw hefyd i arddangosfa sy'n edrych ar y cysylltiad rhwng cerddoriaeth a salwch meddwl. Y cerddor Gareth Roberts a'r artist a'r seiciatrydd Dr. Rhys Bevan Jones sy'n egluro'r cefndir.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 21 Hyd 2018 17:00

Darllediadau

  • Mer 17 Hyd 2018 12:30
  • Sul 21 Hyd 2018 17:00