Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cyfnod y Rhyfel Mawr

Dei a'i westeion yn trafod cyfnod y Rhyfel Mawr, gan gynnwys y wasg Gymreig. Dei and guests discuss the period of the Great War, including the Welsh press.

Dei a'i westeion yn trafod cyfnod y Rhyfel Mawr.

Mae Bleddyn Owen Huws yn awdur cyfrol am brofiadau T. H. Parry-Williams fel gwrthwynebydd cydwybodol, yn cael ei erlid oherwydd ei ddaliadau personol. Beth oedd effaith hynny ar ei fywyd a'i yrfa, wedi i'r gwrthdaro ddod i ben?

Mae Dei hefyd yn cael cwmni Harri Parri, i drafod ei gyfrol yntau am hanes John Puleston Jones. Dyma ddyn dawnus, deallus a huawdl, a oedd yn cael ei adnabod fel Y Pregethwr Dall. Gan ei fod yn heddychwr, roedd yn dipyn o ddraenen yn ystlys John Williams, Brynsiencyn, yng nghyfnod y Rhyfel Mawr.

Hanes merched a'u hymgais i sicrhau heddwch sy'n mynd â bryd Lowri Ifor, wrth i Meilyr Rhys Powell sgwrsio am y wasg Gymreig.

1 awr, 28 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 11 Tach 2018 17:30

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Côr y Penrhyn

    Byd O Heddwch (feat. Rhys Meirion)

    • Anthem.
    • SAIN.
    • 13.
  • Arfon Gwilym

    Sion Bach Tynybryn

    • Proc I'r Tân.
    • Sain.
    • 07.

Darllediad

  • Sul 11 Tach 2018 17:30

Podlediad