
Siani Flewog
Sgyrsiau'n cynnwys Ruth Richards yn trafod ei hail nofel, Siani Flewog. Dei's guests include Ruth Richards discussing her second novel, Siani Flewog.
Ail nofel Ruth Richards yw Siani Flewog, sy'n seiliedig ar hanes pumed Ardalydd Môn; ac i gyd-fynd â'r sgwrs, mae Dei hefyd yn clywed am gartref Ardalydd Môn, sef Plas Newydd, yng nghwmni’r hanesydd Gerwyn James.
Ar ôl i un o organau gorau gogledd Cymru gael ei hailadeiladu yn Eglwys y Drindod, Llandudno, mae Trystan Lewis ac Ilid Anne Jones yn sôn amdani.
Trafod ffilm goll am David Lloyd George, yn dyddio o 1918, mae Philip Lloyd o'r Wyddgrug. Mae Philip wedi gwirioni ar hen ffilmiau.
Sgwrs hefyd gyda Rosa Hunt, enillydd Cadair y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Yn enedigol o Malta, dim ond ers pum mlynedd y mae Rosa wedi bod yn dysgu Cymraeg.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Sul 25 Tach 2018 17:30ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2
Podlediad
-
Dei Tomos
Sgyrsiau am Gymru, ei phobl a'i diwylliant.