 
                
                        Llythyrau Jonah Jones
Sgyrsiau'n cynnwys Pedr Jones yn trafod llythyrau gan ei dad, y cerflunydd Jonah Jones. Dei and guests discuss Wales, its people and its culture.
Ar ôl cyhoeddi cyfrol o lythyrau ei dad, y cerflunydd Jonah Jones, mae Pedr Jones yn ymuno â Dei am sgwrs. Cafodd y llythyrau eu sgwennu'n ystod yr Ail Ryfel Byd, ac maent yn gofnod o berthynas Jonah Jones â gwraig a oedd bymtheng mlynedd yn hŷn nag o.
Un arall sydd wedi cyhoeddi cyfrol o lythrau yw'r hanesydd Gethin Matthews, sef casgliad o ohebiaeth rhwng tri brawd yn ardal Abertawe'n ystod y Rhyfel Mawr.
Darganfyddiad annisgwyl wrth brynu argraffiad cyntaf o Te yn y Grug gan Kate Roberts mewn siop elusen sy'n dod ag Iona Richards o Ddeiniolen i'r stiwdio at Dei, a mae Karen Owen yn trafod y nofel honno, wrth iddi gydsgwennu sioe gerdd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.
Y gymhariaeth rhwng ei nain, y nofelydd Elena Puw Morgan, â Virgina Woolfe yw pwnc trafod Mererid Puw Davies, wrth i Heiddwen Tomos sôn am y nofel Esgyrn, a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Cerddoriaeth a chwaraewyd
- 
    ![]()  Gai TomsDilyn Gorwelion - Llythyrau Ellis Williams.
- RECORDIAU BOS.
- 9.
 
- 
    ![]()  °äô°ù»å²â»å»åO Gymru - Cordydd.
- Cordydd.
- 4.
 
Darllediad
- Sul 6 Ion 2019 17:30ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2
Podlediad
- 
                                        ![]()  Dei TomosSgyrsiau am Gymru, ei phobl a'i diwylliant. 
 
            