
Brexit a Feneswela
Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod Brexit ac argyfwng gwleidyddol Feneswela. Vaughan Roderick and guests discuss Brexit and Venezuela's political crisis.
Ddeufis cyn y mae'r Deyrnas Unedig i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Tŷ'r Cyffredin wedi pleidleisio yn erbyn gohirio Brexit os nad oes cytundeb cyn diwedd Chwefror, ond wedi cefnogi'r syniad o geisio newid y trefniadau ar gyfer ffin Gogledd Iwerddon. Does dim newid i fod, yn ôl Michel Barnier o'r Undeb Ewropeaidd, felly beth nesaf?
Argyfwng gwleidyddol o fath gwahanol yw'r un yn Feneswela. Cafodd Nicolás Maduro ei ethol yn arlywydd y llynedd, ond mae Juan Guaidó o'r wrthblaid wedi cyhoeddi taw ef yw'r arweinydd, gyda'r Unol Daleithiau a nifer o wledydd America Ladin yn ei gydnabod yntau. Mae tair miliwn o bobl wedi gadael y wlad, felly sut y dylid ymateb i argyfwng o'r fath?
David Davies, Alun Davies a Llinos Medi sy'n ymuno â Vaughan.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Gwen 1 Chwef 2019 12:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2 & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
Podlediad
-
Gwleidydda
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos.