Main content

Llenyddiaeth Hoyw
Ffraid Gwenllian a Mihangel Morgan sy'n ymuno â Nia i drafod llenyddiaeth hoyw. Ffraid Gwenllian and Mihangel Morgan join Nia to discuss gay literature.
Ar ôl i'r awdur Alan Hollinghurst awgrymu yng Ngŵyl y Gelli fod oes llenyddiaeth hoyw ar ben, a hynny oherwydd newidiadau cymdeithasol y blynyddoedd diwethaf, mae Nia Roberts a'i gwesteion yn trafod y portread o gyfunrhywiaeth mewn llenyddiaeth Gymraeg.
Yn gwmni iddi mae Ffraid Gwenllian, sydd wedi gwneud astudiaeth yn y maes, a'r awdur Mihangel Morgan.