Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Aled Jones Williams, Ffion Dafis a Sara Lloyd sy'n sgwrsio â Nia am y ddrama Anweledig. Nia hears about Frân Wen's latest production, Anweledig.

Cynhyrchiad diweddaraf Cwmni'r Frân Wen ydi Anweledig gan Aled Jones Williams, wedi'i ysbrydoli gan gofnodion meddygol yr hen ysbyty iechyd meddwl yn Ninbych. Yn ogystal â sgwrsio gyda'r awdur, mae Nia hefyd yn holi Ffion Dafis a Sara Lloyd am eu gwaith yn actio a chyfarwyddo.

Wrth i'r sioe gerdd Fiddler on the Roof ddychwelyd i'r West End, bum deg pump o flynyddoedd ers iddi ymddangos am y tro cyntaf, Steffan Rhys Hughes sy'n olrhain ei hanes, ac yn pwyso a mesur pam ei bod yn parhau i ddenu cynulleidfaoedd ledled y byd.

Hefyd, Trystan Lewis a Myrddin ap Dafydd yn trafod y farchnad lyfrau yng Nghymru, wedi i ystadegau ddangos cynnydd yn nifer y siopau llyfrau annibynnol ar y stryd fawr yn y flwyddyn ddiwethaf.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 17 Chwef 2019 17:00

Darllediadau

  • Mer 13 Chwef 2019 12:30
  • Sul 17 Chwef 2019 17:00