 
                
                        Hanes y Cenhadwr John Davies
Sgyrsiau'n cynnwys hanes y cenhadwr John Davies, a aeth i Tahiti yn y flwyddyn 1800. Dei learns more about missionary John Davies, who went to Tahiti in the year 1800.
Ar ôl dychwelyd o Tahiti, mae Marian Rees o Dal-y-llyn yn rhannu ei phrofiad o fynd ar drywydd hanes y cenhadwr John Davies, a aeth yno o Lanfihangel-yng-Ngwynfa yn y flwyddyn 1800. Mae Dei hefyd yn cael cwmni'r Parchedig Watcyn James, sydd wedi ymchwilio yn ddyfal i hanes John Davies dros y blynyddoedd.
Einion Thomas sy'n sôn am ei daid, o bosib, yn gweld yr eryr aur olaf i gael ei weld yng Nghymru, a hynny rhwng Trawsfynydd a Llanuwchllyn.
Ychydig fisoedd wedi i Gymdeithas John Gwilym Jones gael ei hailffurfio ym Mhrifysgol Bangor, mae'r myfyrwyr Osian Owen a Carwyn Jones yn edrych ymlaen at gynhyrchiad newydd o'r ddrama Ac Eto Nid Myfi. Nid yn unig hynny, ond mae Robat Trefor yn hel atgofion am y cynhyrchiad gwreiddiol.
Hefyd, Derec Llwyd Morgan yn sgwrsio am arddangosfa o luniau'r bardd a'r artist Brenda Chamberlain yn Storiel ym Mangor.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Cerddoriaeth a chwaraewyd
- 
    ![]()  Siân JamesO Am Gael Ffydd - Gosteg.
- RECORDIAU BOS.
- 5.
 
- 
    ![]()  Steffan Rhys HughesNid Fi Yw Mab Fy Nhad - Steffan.
- Sain.
- 3.
 
- 
    ![]()  Bob Delyn a’r EbillionSwn (Ar Gerdyn Post) - Dal I 'Redig Dipyn Bach.
- Sain.
- 08.
 
- 
    ![]()  Bryn BachTÅ· Bob - Enfys.
- ABEL.
 
Darllediad
- Sul 10 Maw 2019 17:30ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2 & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
Podlediad
- 
                                        ![]()  Dei TomosSgyrsiau am Gymru, ei phobl a'i diwylliant. 
 
            