
Sautin + Sautin
Wrth ennill clod am eu gwaith celf, mae'r brawd a'r chwaer Owain a Lea Sautin yn sgwrsio â Nia. Acclaimed brother and sister Owain and Lea Sautin discuss their artwork with Nia.
Brawd a chwaer sy'n ennill clod am eu gwaith celf yw Owain a Lea Sautin, a mae Nia yn cael cyfle i ymweld â stiwdio Lea yng Nghaerdydd. Wrth drafod eu gwaith, mae'r ddau yn cydnabod dylanwad eu magwraeth ym Mhen Llŷn.
Madi ydi enw nofel gynta'r dramodydd Dewi Wyn Williams, sy'n adrodd stori merch ifanc yn byw gydag anorecsia a bwlimia, ac yn cuddio’r salwch. Fel y mae'r awdur yn ei egluro, mae'n bwnc personol iawn iddo.
Trydedd nofel Sian Northey yw Perthyn, sef stori am berthynas anarferol mam a mab, yn symud o Benrhyndeudraeth y 1930au i ddinasoedd Glasgow a Chaerdydd.
Hefyd, yr artist Sian Owen yn sgwrsio am ei harddangosfa yn Llyfrgell Blaenau Ffestiniog. Mae Aelwyd yn seiliedig ar hen lechi cerfiedig Dyffryn Ogwen.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediadau
- Mer 20 Maw 2019 12:30ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2
- Sul 24 Maw 2019 17:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2