Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Y Ferch gyda'r Gwallt Hynod Hir

Blas ar Y Ferch gyda'r Gwallt Hynod Hir, sy'n sioe i'r teulu yn seiliedig ar stori Rapunzel. Nia hears about a family show inspired by the story of Rapunzel.

Blas ar Y Ferch gyda'r Gwallt Hynod Hir, sy'n sioe i'r teulu yn seiliedig ar Rapunzel. Cwmni We Made This sy'n gyfrifol am y cynhyrchiad, a mae Nia yn holi Catrin Wyn Lewis am ei chyfieithiad, yn ogystal â Ceri Elen am broses addasu'r stori ar gyfer cynulleidfa gyfoes.

Stori'r merched a gafodd eu llofruddio gan Jack the Ripper sydd wedi ysbrydoli The Women of Whitechapel gan English National Opera, ac un o'r rhai sy'n ymarfer yn theatr y London Coliseum ydi Mari Wyn Williams. Wrth sgwrsio â Nia, mae'r soprano o Lanberis yn sôn am wefr rhannu llwyfan gyda rhai o gantoresau enwocaf byd opera.

Castell Coch ger Tongwynlais ydi'r lleoliad ar gyfer arddangosfa'r cerflunydd o Gaerdydd, Laura Ford. Cat Gardiner o TEN sy'n gyfrifol am ei llwyfannu, ac yn ogystal â chael ei chwmni hi mae Nia hefyd yn holi Dr Ffion Reynolds o Cadw am gyflwyno celf newydd mewn lleoliadau hanesyddol.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 14 Ebr 2019 17:00

Darllediadau

  • Mer 10 Ebr 2019 12:30
  • Sul 14 Ebr 2019 17:00