 
                
                        Pwerau genetig y Sherpa
Ar ôl cerdded yn Nepal yn 2018, mae Marged Tudur yn ymuno ag Aled i drafod y Sherpa. Having been to Nepal in 2018, Marged Tudur joins Aled to discuss the Sherpa.
Ar ôl i ymchwil ddangos fod datblygiad genetig Sherpa yr Himalaia yn wahanol i ni, a bod hynny'n rhan o'r rheswm pam eu bod yn medru ymdopi â chrwydro'r mynyddoedd uchel heb ôl-effeithiau, mae Marged Tudur yn ymuno ag Aled am sgwrs. Aeth Marged i Nepal i gerdded yn 2018, a mae'n egluro pwy yw'r Sherpa, a beth yw eu swyddogaeth ar y mynyddoedd.
Effaith seicolegol cerddoriaeth yw'r drafodaeth gydag Awel Vaughan. Sut mae cerddoriaeth drist yn medru codi hwyliau, a sut mae Awel wedi profi hynny'n niwrolegol?
Gydag ysgol fonedd St Paul's yn ystyried derbyn merched, dyma holi Dr Elin Jones am hanes rhannu merched a bechgyn mewn addysg.
Hefyd, wedi i fagiau plastig a oedd i fod i bydru gael eu darganfod yn gyflawn dair blynedd ers eu taflu, Eifiona Lane sy'n egluro beth yw'r gwahaniaeth rhwng gwahanol nwyddau gwyrdd, a'r amser mae'n ei gymryd iddyn nhw ymddatod.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Cerddoriaeth a chwaraewyd
- 
    ![]()  Yws GwyneddDrwy Dy Lygid Di - Anrheoli.
- Recordiau Côsh Records.
- 8.
 
- 
    ![]()  ColoramaDere Mewn - Dere Mewn!.
- Recordiau Agati Records.
- 3.
 
- 
    ![]()  CatatoniaGyda Gwên - The Crai EPs 1993/94.
- ANKST.
- 5.
 
- 
    ![]()  Moc IsaacRobots 
- 
    ![]()  Super Furry AnimalsYsbeidiau Heulog - Mwng.
- Placid Casual.
- 7.
 
- 
    ![]()  Mim Twm LlaiTafarn Yn Nolrhedyn - O'r Sbensh.
- CRAI.
- 7.
 
- 
    ![]()  Swci BoscawenMin Nos Monterey - Couture C'ching.
- FFLACH.
- 8.
 
- 
    ![]()  Iwcs a DoyleDa Iawn - Edrychiad Cynta'.
- Sain.
- 9.
 
- 
    ![]()  CeltDros Foroedd Gwyllt - @.com.
- Sain.
- 8.
 
- 
    ![]()  Griff LynchHir Oes Dy Wên - HIR OES DY WEN.
- Recordiau I KA CHING Records.
- 1.
 
- 
    ![]()  Georgia RuthEtrai - Week Of Pines.
- Gwymon.
- 8.
 
- 
    ![]()  JessJulia Gitâr - Hyfryd I Fod Yn Fyw!.
- FFLACH.
- 8.
 
- 
    ![]()  Geraint Lovgreen a’r Enw DaStella Ar Y Glaw - 1981-1998.
- Sain.
- 17.
 
Darllediad
- Gwen 3 Mai 2019 08:30ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2
