Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

David Nash: Cerfluniau'r Tymhorau

Sylw i'r arddangosfa fwyaf yng Nghymru o waith yr artist David Nash, sef David Nash: Cerfluniau'r Tymhorau. Nia hears about the largest exhibition in Wales of David Nash's work.

Sylw i'r arddangosfa fwyaf yng Nghymru o waith David Nash. Daw David Nash: Cerfluniau’r Tymhorau i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd hanner can mlynedd ers i'r artist symud i weithio yng Nghapel Rhiw, sef cyn-gapel y Methodistiaid ym Mlaenau Ffestiniog. Yn ogystal â holi un o'r trefnwyr, mae Nia hefyd yn clywed am broses creu llyfr i gyd-fynd â'r arddangosfa.

Dathlu derbyn Gwobr Cyfraniad Oes gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru mae Aled Lewis Evans. Wedi cyhoeddi dros ddeg o gyfrolau, mae'n sôn wrth Nia am ei waith, ac am yr hyn sydd wedi'i ysbrydoli dros y blynyddoedd.

Un arall sy'n dathlu yw Elfyn Lewis, yr artist o Borthmadog. Wrth i’w ben-blwydd yn hanner cant agosáu, mae’n edrych yn ôl ar ei yrfa, ac yn edrych ymlaen at arddangosfa o’i waith yn Oriel Ffin y Parc, Llanrwst.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 12 Mai 2019 17:00

Darllediadau

  • Mer 8 Mai 2019 12:30
  • Sul 12 Mai 2019 17:00