Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gwrth-Semitiaeth, protestio, ac ymweliad ag India

John Roberts a'i westeion yn trafod gwrth-Semitiaeth, protestio, ac ymweliad ag India. John Roberts and guests discuss anti-Semitism, and the difference protests makes to opinions.

Yng nghanol trafodaeth ar wrth-Semitiaeth ym Mhrydain a'r Almaen, Andrew Missell sy'n ymuno â John Roberts i sôn am anhawster diffinio gwrth-Semitiaeth, a sut mae ymateb i agweddau o’r fath.

Gydag achosion o fwlio plant ar sail hil neu gred ar gynnydd, yn ôl yr NSPCC, dyma drafod yr ystadegau gyda Deborah Hendy o'r elusen.

Ble mae'r ffin rhwng denu a cholli cefnogaeth i brotestio? Mae Neil Lewis yn angerddol ynglÅ·n ag ymgyrchu dros yr amgylchedd, ond yn teimlo tyndra rhwng yr angen i weithredu a rhai o'r dulliau sy'n cael eu defnyddio.

Sgwrs hefyd gydag aelodau Tîm i Gymru Undeb Bedyddwyr Cymru eleni. Mae Eleri, Hannah a Gruff newydd ddychwelyd o India, ac yn sôn am y gwaith hyd yma.

28 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 2 Meh 2019 08:00

Clip

Darllediad

  • Sul 2 Meh 2019 08:00

Podlediad