
Cynhadledd canu gwerin yn Lithwania
Sgyrsiau'n cynnwys yr Athro E Wyn James yn sôn am gynhadledd canu gwerin yn Lithwania. Professor E Wyn James tells Dei about a folk music conference in Lithuania.
Ar ôl dychwelyd o gynhadledd canu gwerin yn Lithwania, mae'r Athro E Wyn James yn sôn am y profiad o draddodi yno.
Nofel gan Dyfed Edwards ydi Apostol, sy'n olrhain hanes yr Apostol Paul, a'r gwrthdaro rhyngddo ef a'r Eglwys Fore. Mae'n ymuno â Dei i drafod y gyfrol.
Unwaith eto, mae'r arweinydd corawl Trystan Lewis yn ein tywys ar daith gerddorol ddychmygol trwy Ddyffryn Conwy, a hynny ar drothwy ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Llanrwst.
Mae Dei hefyd yn cael cwmni enillwyr y Fedal Ddrama a'r Goron yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro, sef Mared Roberts a Brennig Davies.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Sul 7 Gorff 2019 17:30ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2
Podlediad
-
Dei Tomos
Sgyrsiau am Gymru, ei phobl a'i diwylliant.