Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Y Cylch Sialc

Nia Roberts yn cwrdd â rhai o gast a chriw Y Cylch Sialc, cynhyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol. A look at the arts in Wales and beyond.

Y Cylch Sialc gan Bertolt Brecht yw cynhyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol. Mae Nia yn ymweld efo’r ystafell ymarfer yng Nghaerfyrddin i sgwrsio efo’r cyfarwyddwr Sara Bickerton, y digrifwr Noel James a’r gantores Gwenno Saunders sef dau o’r perfformwyr sy’n ymddangos mewn drama am y tro cyntaf. Hefyd mae Mererid Hopwood yn trafod y broses o drosi’r sgript o’r Almaeneg gwreiddiol ac yn egluro sut mae neges y ddrama yn parhau i fod yn berthnasol i gynulleidfaoedd yng Nghymru heddiw.

Sylw hefyd i nofel ddiweddaraf yr awdur Lloyd Jones. Mae Fflur yn rhaghanes i’w nofel ddystopaidd Y Dŵr a gyhoeddwyd yn 2009 ac mae’n cynnig portread o fywyd a chariad mewn oes oedd yn llawer mwy syml.

Hefyd mae’r llenor Meg Elis yn ceisio egluro'r pleser sydd i’w gael wrth chwilota am drysorau mewn siop lyfrau ail-law.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 6 Hyd 2019 17:00

Darllediadau

  • Mer 2 Hyd 2019 12:30
  • Sul 6 Hyd 2019 17:00