 
                
                        Morgan Llwyd, Dafydd ap Gwilym a Clwb Mynydda Cymru
Dei Tomos yn trafod Morgan Llwyd, Dafydd ap Gwilym, Owain Gethin Jones a Clwb Mynydda Cymru. Dei and guests discuss Puritans, poets and mountaineering.
Mae 2019 yn 400 mlwyddiant geni'r Piwritan Morgan Llwyd, awdur y rhyddiaith gorau welodd Cymru erioed yn ôl rhai. Dafydd Glyn Jones sydd yn sgwrsio amdano.
Mae John Bollard ac Anthony Griffiths newydd gyhoeddi llyfryn ‘Cymru Dafydd ap Gwilym – Cerddi a Lleoedd’ sydd yn cynnwys lluniau i gyd-fynd â rhai o gerddi'r bardd. Dafydd Johnstone sy'n sôn mwy am y bardd a'r llyfr.
Mae Vivian Parry Williams yn trafod hanes y bardd, yr hynafiaethydd a’r adeiladwr o Ddyffryn Conwy, Owain Gethin Jones.
Ac, mae Dei yn nodi 40 mlwyddiant Clwb Mynydda Cymru drwy hel atgofion yng nghwmni Gwyn Williams a Gwen Aaron.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
- 
    ![]()  Iona ac AndyAtgof Am Eryri - Cerdded Dros Y Mynydd.
- Sain.
- 7.
 
- 
    ![]()  Linda GriffithsÔl Ei Droed - Ol Ei Droed.
- SAIN.
- 14.
 
Darllediad
- Sul 29 Medi 2019 17:30ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2
Podlediad
- 
                                        ![]()  Dei TomosSgyrsiau am Gymru, ei phobl a'i diwylliant. 
 
            