
04/11/2019
Golwg ar y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts in Wales and beyond.
Mae Nia'n cael cwmni’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis Thomas, i drafod sut mae celfyddyd Cymru yn cael ei werthu dramor. Hefyd yn ymuno yn y sgwrs mae Eluned Haf, o Gelfyddyd Rhyngwladol Cymru.
Sylw i Lleu Llaw Gyffes, cynhyrchiad diweddaraf Cwmni Theatr Bara Caws. Mae Nia’n cael cwmni’r dramodydd Aled Jones Williams i drafod yr hyn a ysbrydolodd y ddrama, sy’n cael ei pherfformio am y tro cyntaf ar hyn o bryd er iddi gael ei chyflwyno i’r cwmni ugain mlynedd yn ôl.
Mae Catrin Beard yn sgwrsio efo’r awdures Haf Llewelyn sydd newydd gyhoeddi Pwyth, ei phedwaredd nofel i oedolion, sy’n darlunio clymau o fewn cymdeithas yn dilyn damwain.
Ac mae Nia’n ymweld efo theatr y Coliseum yn Llundain, er mwyn cwrdd efo’r cantorion opera Sioned Gwen Davies ac Elgan Llŷr Thomas wrth iddynt baratoi ar gyfer perfformio yn y Mikado gyda Cwmni Opera Cenedlaethol Lloegr.
Darllediad diwethaf
Clip
-
Sioned Gwen Davies ac Elgan Llyr Thomas
Hyd: 00:27
Darllediad
- Llun 4 Tach 2019 18:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2 & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru