
21/04/2020
Y pensaer Efa Lois sydd yn trafod sut mae mynd ati i gynllunio eglwys. Architect Efa Lois discusses how does one design a church?
Gwenllian Carr yn bwrw golwg ar sut mae hysbysebion yr Eisteddfod Genedlaethol wedi newid dros y blynyddoedd.
Gyda chlychau Eglwys Gadeiriol Notre Dame wedi canu flwyddyn wedi’r tân, y pensaer Efa Lois sydd yn trafod sut mae mynd ati i gynllunio eglwys.
Mae Carys Bryn yn hel atgofion am ei gwaith yn darlunio y gyfres enwog 'Tecwyn y Tractor', tra bod y gohebydd chwaraeon, Dylan Griffiths yntau’n hel atogfion hefyd am chwaraewyr sydd yn aros yn y cof yn sgil ail-ddangos cymaint o gemau pêl-droed o’r archif ar y teledu’n ddiweddar.
A oes gan wartheg iaith? Dyna’r cwestiwn i’r ffermwr Bryn Roberts o Benisarwaun.
Hefyd, sgwrs gyda’r athro ymarfer corff o’r Wyddgrug yn wreiddiol, James Jones, ond sydd bellach yn byw yn Madrid - mae o newydd ddechrau cynhyrchu fidios ymarfer corff trwy gyfwng y Gymraeg ar Youtube ac Instagram i blant.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Maw 21 Ebr 2020 09:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2 & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru