
Y Pasg
Mae Cofio'n dathlu'r Pasg yr wythnos hon. Dewch gyda ni am daith arall i archif ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru! Cofio celebrates Easter by delving into the ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru archive.
Mae Cofio'n dathlu'r Pasg yr wythnos hon. Awn i bob cwr o Gymru i glywed am yr hen ffyrdd o ddathlu'r ŵyl: O Ynys Môn i Aberaeron a'r Dderwen Gam, mae Cofio yno.
Mae John Hardy'n clywed disgrifiad gan blant o Stori'r Pasg, yn ymweld â chymanfaoedd gyda Rob Nicholls, ac yn darganfod beth yw'r arfer o glapio wyau yn Ynys Môn.
Wyau siocled sydd ar feddwl Ffermwr Bach Eleri Siôn, ac wyau Faberge sy'n mynd a sylw'r arwerthwr David Rogers Jones. A fedrwn ni ddim siarad am wyau heb roi sylw i adroddiadau newyddion am Edwina Currie a John Prescot...
Nid melys yw pob atgof am y Pasg fodd bynnag - awn ar daith i'r Ynys Werdd i gofio am Wrthryfel y Pasg trwy ddisgrifiadau Mary Rowenna Griffith a Cecile Salkeld.
O ie, ac mae Ryan Davies yn eistedd ar ben wy mewn Steddfod. Pasg hapus i chi gyd!
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 12 Ebr 2020 14:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2 & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
- Mer 15 Ebr 2020 18:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2 & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru