Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Yr Awyr Agored

Dewch am dro yn yr awyr agored, drwy archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. Come on a trip to the great outdoors with Cofio, with the help of the ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru archive.

Awn ar gefn beic gyda chriw o ferched yn Llanbed ac ar fwrdd cwch pysgota Ted Jones i glywed ei hanes fel pysgotwr oddi ar arfordir Gogledd Cymru.

T Glynne Davies aeth i sgwrsio gyda Ioan Bowen Rhys am Edward Llwyd a Thomas Pennant, tra fu Tom Evans yn holi Goronwy Pugh a fu'n fugail ar lethrau Cadair Idris am flynyddoedd lawer.

JR Jones Talybont yn cofio diwrnod dyrnu yn Cwm Clettwr tra bod Henry Lloyd Owen sy'n sôn am ddod ar draws y wenci a’r ffwlbart ar ddiwrnod torri gwair.

Hefyd ymhlith y pytiau, Hywel D Roberts sy'n sôn am ei brofiad o wersylla ger Llanuwchllyn yng ngwersyll cyntaf Yr Urdd. A gwersylla dramor bu Myrddin ap Dafydd, gan ysgrifennu ei atgofion yn hyrtach na chofnodi gyda chamera.

55 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 29 Ebr 2020 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 26 Ebr 2020 14:00
  • Mer 29 Ebr 2020 18:00