 
                
                        Bois y Frenni
Ffion Meleri Rees a'i phrosiect "Resting Itch Face"; Mared Roberts ym myd y ddrama; y gantores Leigh Alexandra a Bois y Frenni. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.
‘Y cryfder i fod yn wahanol, y dewrder i fod yn ti dy hun’. Dyna beth sydd i weld ar y llun neu gartŵn arbennig o Ffion Meleri Rees o Abertawe, sydd yn byw gyda'r cyflwr psoriasis ers ei bod hi’n 15 oed, ac ynghlwm ȃ phrosiect "Resting Itch Face".
Mae'r gantores Leigh Alexandra, sy'n hunan ynysu efo'i Mam-gu 94 oed, yn trafod ei phodlediad newydd sy'n cyfeirio ar wirioneddau bywyd.
Enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019, Mared Roberts, sy'n trafod ei drama fuddugol Sgidie, Sgidie, Sgidie. Fe fydd y ddrama'n cael ei pherfformio gan y Theatr Genedlaethol yn ddigidol.
A'r Darn o'r Archif yw Glanmor Thomas o Bois y Frenni yn rhannu stori Motobeic Benji Tŷ Draw ar y rhaglen Stori Tu ôl i'r Gȃn o'r 90au. Dechreuwyd y parti gan WR Evans nôl yn y 40au.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
- 
    ![]()  Various ArtistsDewch At Eich Gilydd - Dewch At Eich Gilydd.
- S4c.
 
- 
    ![]()  ColoramaDere Mewn - Dere Mewn.
- Wonderfulsound.
 
- 
    ![]()  David GarrettSerenade 
- 
    ![]()  Dennis O'NeillBugail Aberdyfi 
- 
    ![]()  Gwibdaith Hen FrânTrôns Dy Dad - Cedors Hen Wrach - Gwibdaith Hen Fran.
- Rasal.
 
- 
    ![]()  Cor Y Moelwyn a Band Pres OakleyBro Aber 
Darllediad
- Mer 27 Mai 2020 11:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2
