 
                
                        Yr Amens a'r Haleliwias!
Geraint Davies, Niamh Moulton, Gwion Glyn, Beca Brown ac Alwyn Humphreys yn ymuno gyda Shân Cothi. A warm welcome and a chat over a cuppa with Shân Cothi.
Roedd Geraint Davies ar y rhaglen hon ychydig o amser yn ôl yn hyrwyddo Ysgoloriaeth Cymdeithas Drama Gymraeg Abertawe 2020, ac mae’n dda medru dweud bod dau enillydd eleni yn derbyn £2,000 yr un sef Niamh Moulton o Rydaman a Gwion Glyn o Fethel ger Caernarfon. Penderfynodd y panel gwobrwyo, sef yr actor Ioan Hefin, y cyfarwyddwr Euros Lyn a'r llenor Elinor Wyn Reynolds, bod y ddau yn haeddiannol o dderbyn yr ysgoloriaeth.
Mae’n Ddiwrnod Rhyngwladol Cydraddoldeb i Fenywod, sef diwrnod o ddathlu ond hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o'r holl anghyfiawnderau sydd yn dal i fodoli i ferched o gwmpas y byd. Beca Brown sydd yn ymuno i roi ychydig o wybodaeth am y diwrnod yma.
Hefyd, ydych chi'n adnabod eich Amens neu Haleliwias? Alwyn Humphreys sydd yn ymuno gyda Shân Cothi i rannu cefndir a rhoi ychydig o hanes rai o'r Amens a'r Haleliwias enwoca'.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
- 
    ![]()  CeltRhwng Bethlehem A'r Groes - @.com.
- Sain.
- 3.
 
- 
    ![]()  Big LeavesMeillionen - Pwy Sy'n galw?.
- CRAI.
- 3.
 
- 
    ![]()  Gwawr EdwardsFwyn Afon - ALLELUIA.
- SAIN.
- 5.
 
- 
    ![]()  Delwyn SiônTro Tro Tro - Un Byd.
- FFLACH.
- 12.
 
- 
    ![]()  ±Ê°ù¾±Ã¸²ÔBwthyn - Bwthyn.
- Gildas Music.
- 1.
 
- 
    ![]()  Tesni JonesGafael Yn Fy Llaw - Can I Gymru 2009.
- 3.
 
Darllediad
- Mer 26 Awst 2020 11:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2 & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
